I addysgu Mathemateg hyd at TGAU/Lefel A. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon uwchradd a chynradd sydd â chymhwyster Mathemateg Safon Uwch. Telir cyflog yn unol â Graddfa Cyflog Athrawon (£32,433- £49,944). Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Dyddiad cychwyn yw 1af o Fedi 2025. Ffurflenni cais i'w anfon at y Pennaeth, Mr Huw Davies, Ysgol Gyfun Llangefni, Penrallt, Llangefni, Ynys Mon, LL77 7NG ac i'w dychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn hanner dydd, Dydd Iau, 15fed o Fai 2025.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Gyfun Llangefni yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.