Cynorthwy-ydd Addysgu

Coleg
Ysgol Plasmawr
Lleoliad
Tyllgoed, Cardiff
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
3 SCP 3-6 (£23,987- £25,143 pro rata*)
Dyddiad cychwyn
2nd September 2024
Yn dod i ben
13th Mai 2024 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1419014
Cyfeirnod y swydd
PlasCAMedi24
Dyddiad cychwyn
2nd September 2024
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 12 mis
  • ID swydd: 1419014

Mae Ysgol Plasmawr yn awyddus i benodi sawl Cynorthwy-ydd Addysgu brwdfrydig ac egnïol i ymuno â'r Tîm Cynnal Dysgu.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o weithio gyda phlant mewn ystafell ddosbarth. Byddem hefyd wrth ein bodd yn clywed gan bobl sydd wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant neu ddarpariaethau addysgol eraill.

Gall hyn fod yn gyfle ardderchog i graddedigion sydd yn ystyried gyrfa dysgu ond yn dymuno cael profiad o weithio mewn ysgol yn y lle cyntaf.

Rydym yn ysgol gyfun 11-18 oed sydd â gweledigaeth glir am gynhwysiant er mwyn galluogi pob disgybl i lwyddo. Cefnogir ystod eang o anghenion dysgu yn y brif ffrwd, yn ogystal ag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol ac awtistiaeth. Mae’r ysgol yn gwbl ymroddedig i gefnogi pobl ifanc i aros yn yr ysgol ac i gyflawni eu potensial mewn addysg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm profiadol o staff ymroddgar a brwdfrydig dan arweiniad y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rinweddau hanfodol i’r swydd, gan gynnwys dycnwch, amynedd, blaengaredd, creadigrwydd meddwl, hiwmor a’r gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm. Disgwylir i ddeiliad y swydd hon i gefnogi disgyblion o fewn dosbarthiadau’r brif ffrwd a hefyd i weithio’n achlysurol yn yr Ardal Cynnal Dysgu gyda disgyblion sydd ag anawsterau amrywiol, gan gynnwys rhai mwy heriol eu hymddygiad sydd angen mewnbwn 1:1 neu mewn grŵp bach.

Mae hon yn swydd a fydd yn cynnig boddhad proffesiynol uchel ac yn rhoi profiad defnyddiol i unigolyn sydd eisiau datblygu gyrfa o fewn y gweithlu addysg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel uchel o gefnogaeth cydweithwyr o fewn y Tîm Cynnal Dysgu, a phob cyfle i ddilyn trywydd diddordeb penodol o fewn y swydd.

Amodau gwaith: Dydd Llun i Dydd Gwener yn ystod y tymor ysgol yn unig gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant mewn swydd. Oriau arferol 8.15am – 3.15pm.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.