Swydd: Athro / Athrawes
Graddfa Cyflog Athrawon
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol pob oed / uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Ysgol pob oed ar ddau gampws yw Ysgol Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur. Mae safle Ysgol Gymraeg Ystalyfera wedi'i lleoli yng Nghwm Tawe a safle Bro Dur ym Mhort Talbot ac mae ein harlwy addysgol yn seiliedig ar ethos bugeiliol a theuluol cryf. Mae’n ysgol boblogaidd a ffyniannus, gyda hanes ardderchog o sicrhau llwyddiant academaidd a darpariaeth eang o gyfleoedd cyfoethogi. Mae adeiladau’r ddwy safle yn newydd sbon gydag adnoddau heb eu hail ac amgylchfyd gwaith wedi selio ar gefnogaeth gadarn a chyd-weithio brwd.
Mae’r cynllun peilot yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant/Met Caerdydd byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
• Cynllunio gwersi
• Asesu, marcio ac adborth
• Rheolaeth ddosbarth
• Datblygu dycnwch
• Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Proses ymgeisio:
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad cau, sef 00:59 dydd Sul, 2 Mawrth 2025.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng 17-28 Mawrth 2025.
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg neu os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Mrs Laurel Davies
Safeguarding Statement:
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.