Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol pob oed neu uwchradd. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn sefydliad addysgol 3-19 oed ar draws dau gampws yn gwasanaethu sir Castell Nedd Port Talbot. Ysgol pob oed Cyfrwng Cymraeg yw safle Ystalyfera gyda 1,059 o ddisgyblion: 130 yn yr Adran Gynradd a 929 ym Mlynyddoedd 7-13 ac mae Bro Dur yn safle gyda 530 o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7-11. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ysgol boblogaidd a ffyniannus, mae gennym hanes ardderchog o sicrhau llwyddiant academaidd, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd cyfoethogi a sicrhau addysg gyffredinol ragorol.
Mae’r cynllun peilot yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
• Cynllunio gwersi
• Asesu, marcio ac adborth
• Rheolaeth ddosbarth
• Datblygu dycnwch
• Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru yn yr ysgolion canlynol: Bro Myrddin, Dyffryn Conwy, Bodedern, Aberaeron, Bro Pedr, Bro Teifi, Bro Dinefwr, Brynhyfryd, Brynrefail, Llangynwyd, Y Moelwyn, Godre’r Berwyn, Rhydywaun, Glantaf, Maes y Gwendraeth, Plasmawr, y Creuddyn a Tryfan. Gellir ystyried ceisiadau i ymgymryd â’r cynllun mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg eraill.
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.