Swydd athro Addysg Gorfforol (MDaPh Iechyd a Lles)
Cyfnod Mamolaeth (contract blwyddyn)
Safle Ystalyfera
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro ymroddgar i swydd yn yr adran Addysg Gorfforol yn Ystalyfera ar gyfnod mamolaeth o fis Medi 2023. Rydym yn chwilio am berson blaengar, brwdfrydig, ymroddgar ac egnïol sydd â’r gallu i addysgu addysg gorfforol o fewn y Maes Iechyd a Lles. Addysgir Addysg Gorfforol fel rhan o’n cwricwlwm Iechyd a Lles, ble mae dysgwyr yn dysgu am yr ochr ffitrwydd a iechyd a lles corfforol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth am iechyd meddwl a lles emosiynol.
Mae gan yr Adran dîm profiadol o staff, sydd yn cefnogi’i gilydd ac yn anelu am y gorau o’n dysgwyr a thanio’u brwdfrydedd yn y pynciau, ynghyd â chynorthwyo gyda’r llu o weithgareddau allgyrsiol chwaraeon mae’r ysgol yn cynnig i’n dysgwyr. Nodwedd arbennig o’r adran yw’r disgwyliadau a’r safonau cyson uchel o ran gweithgaredd allgyrsiol a chyfleoedd i ddisgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o athrawon ymroddgar dros ben sydd yn cynnig cyfleoedd amrywiol mewn sawl camp i ddisgyblion sy’n cyflawni ar lefel uchel iawn. Yn ogystal mae’r adran yn cyfrannu at weithgaredd a blaengareddau ysgol gyfan i hyrwyddo cyswllt cynradd, bywyd iach a datblygu hyfforddwyr ifanc.
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol 3-18 oed sydd wedi'i lleoli yng Nghwm Tawe ac mae ein harlwy addysgol yn seiliedig ar ethos bugeiliol a theuluol cryf. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol boblogaidd a ffyniannus, mae gennym hanes ardderchog o sicrhau llwyddiant academaidd, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd cyfoethogi a sicrhau addysg gyffredinol ragorol. Fel Ysgol Arloesi ers 2016, rydym wedi cyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Cwricwlwm i Gymru, gyda’r ffocws ar ddatblygu cwricwlwm ac addysgeg er mwyn diwallu’r weledigaeth cenedlaethol. Fel rhan o brosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r ysgol wedi gweld cryn dipyn o fuddsoddiad yn ei hadeiladau a'i chyfleusterau; mae’r cam olaf wedi darparu neuadd ysgol newydd, ardal fwyta, ystafelloedd dosbarth addysgu, adain gelfyddydol perfformio, llain 2G a chyrtiau tenis / ardal aml-bwrpas.
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi’r ymrwymiad creiddiol hwn. Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies.
Proses Ymgeisio
Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy lythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd â’r swydd yn ogystal â’r ffurflen gais atodedig. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol newydd hon. Mae’r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad diogelu trylwyr.
Dyddiad Cau: Hanner Dydd, Dydd Mercher, Ebrill 19 2023
Dyddiad dechrau y swydd: Medi 2023
Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.