YSGOL GYFUN GYMRAEG BRO EDERN
HEOL LLANEDEYRN
PENYLAN
CAERDYDD
CF23 9DT
Cyf: ED50275219
ATHRO/ATHRAWES GWYDDONIAETH
Parhaol
GRADDFA CYFLOG: Prif/Uwch Raddfa
DYDDIAD DECHRAU: MEDI 2022
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn 2012 i gwrdd â’r gofyn ychwanegol am addysg Gymraeg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae’n gwasnaethu dwyrain y ddinas a symudodd i’w safle parhaol fis Medi 2013. Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol gymunedol i fechgyn a merched 11-18 oed a’r bwriad yw y bydd tua 1200 o ddisgyblion ynddi erbyn iddi gyrraedd ei llawn dwf. Ym Medi 2021 mae dros 950 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Yn adroddiad arolwg Estyn o’r ysgol fe’i disgrifiwyd fel ‘cymuned glòs iawn gydag ethos hynod ofalgar a chefnogol.’ Nodwyd hefyd fod ‘disgyblion yn ymddwyn yn arbennig o dda ac yn dangos lefelau uchel iawn o barch a gofal’ a bod yr ysgol yn creu ‘diwylliant ac ethos o’r ‘ysgol sy’n dysgu’ sydd yn annog a chefnogi datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel.’ Dyfarnwyd fod lles ac agweddau at ddysgu, ynghyd ag addysgu a phrofiadau dysgu yn rhagorol yn yr ysgol.
Chwiliwn am unigolyn brwd ac ymroddgar i ymuno ag adran hynod o flaengar a llwyddiannus. Addysgir gwyddoniaeth ar draws y tri chyfnod allweddol a bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu un o’r tri phwnc gwyddonol ar draws yr ystod oed a gallu, yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau.
Rhaid i’r ymgeiswyr:
▪ feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
▪ meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
▪ meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
▪ bod yn ymrwymedig i ddatblygu’r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda’r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
▪ dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol
▪ bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg
▪ meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy’n datblygu.
Am fanylion a rhagor o wybodaeth am y swydd, ynghyd â gwybodaeth ymgeisio, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr sy’n cydfynd â’r swydd hon.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu.
Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm "Gwneud Cais Nawr".
Oherwydd ein trefniadau gweithio interim presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r swydd.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi yn uniongyrchol i'r ysgol erbyn y dyddiad cau. 07/02/2022, 12 hanner dydd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:
• y rhai sy’n 25 oed ac iau;
• y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
• y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;
• y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.