Swydd Athro Cynradd (gyda chyfle datblygiad gyrfa)
Contract Parhaol
Medi 2022
+ £2,000 at gynnal a chadw a/neu ad-leoli am ddwy flynedd
+ TLR yn dilyn hwn ar gyfer ymgeisydd addas i arwain cam cynnydd 3
Dyddiad cau 12 o’r gloch dydd Mawrth 24ain Mai
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar drothwy cyfnod cyffrous yn ei hanes. Ym Medi eleni, mae’r ysgol yn agor i fod yn ysgol bob oed, wrth i’n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Wrth i ni dyfu ein darpariaeth cynradd dros y blynyddoedd nesaf, chwiliwn am athro cynradd ymroddgar ac egnïol er mwyn addysgu Cymraeg a/neu Saesneg a’r Dyniaethau yn CA3 am ddwy flynedd cyn addysgu yng Ngham Cynnydd 3, gyda’r posibilrwydd o gyfrifoldeb arwain dysgwyr cam cynnydd 3.
Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae’r ysgol hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.
Rydym yn tyfu fel ysgol bob oed ac hefyd yn croesawu datblygiadau arloesol i’n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan gan fodloni blaenoriaeth genedlaethol.
Bydd y prif gyfrifoldebau’n cynnwys:
• Paratoi ac addysgu gwersi iaith (Cymraeg a/neu Saesneg) a’r Dyniaethau i ddysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a/neu 9.
• Cyfrannu, trwy’r adran a thu hwnt, i ddatblygu a gweithredu strategaethau ysgol gyfan
• Ymgynghori ar ddatblygiadau pellach i’r cyfnod cynradd er mwyn sicrhau’r profiadau gorau i’r dysgwyr a throsglwyddo esmwyth o un gam cynnydd i’r llall
• Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn y dosbarthiadau a addysgir a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon dan oruchwyliaeth yr arweinydd adran
• Ymchwilio a chydweithio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd Cwricwlwm i Gymru
• Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
• Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i’n dysgwyr
Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:
• Meddu ar ddealltwriaeth da o addysgeg
• Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;
• Gallu gweithio fel rhan o dîm;
• Fod yn hyblyg o ran dosbarthiadau a phynciau dysgu (o fewn arbenigedd yr unigolyn)
• Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
Ystyrir ceisiadau oddi wrth athrawon uwchradd neu cynradd am y swydd hon. Croesewir ceisiadau hefyd gan athrawon o’r sector Saesneg. Darperir cefnogaeth datblygu a gloywi iaith yn ôl yr angen.
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, lawrlwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach. Os ydych am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Pennaeth.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 o’r gloch 24/05/22
This is an advertisement for the post of a teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate in Welsh is essential.
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.