Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch CALU (HLTA) - Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Gwybodaeth am swydd
Rhif swydd EDS2288 - Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch CALU (HLTA) - Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Yr ydym yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu lefel uwch i weithio’n bennaf i gefnogi lles dysgwyr mewn ystod o sefyllfaoedd yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt, gan gynnwys gweithio gydag unigolion, grwpiau bychan a dosbarthiadau cyfan i arwain y dysgu.
Nifer disgyblion ym mis Medi 2022: 550
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yw Ysgol Gyfun Gymraeg gyntaf dinas a Sir Casnewydd. Yr ysgolion cynradd sydd yn bwydo’r ysgol hon yw Ysgol Gymraeg Casnewydd, Ysgol Gymraeg Ifor Hael, Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon ac Ysgol Gymraeg y Ffin, yn Sir Fynwy. Roedd y disgyblion cyntaf wedi eu derbyn i’r ysgol i Flwyddyn 7 ym mis Medi 2016. Ers mis Medi 2018 rydym ar safle newydd yn ardal Dyffryn gydag adeilad newydd sbon. Dyma gyfle unigryw ac arbennig i ymuno â chymuned ddysgu newydd, mewn adeiladau newydd, modern gyda cyfleusterau addysgol o’r radd flaenaf. Rydym yn edrych ymlaen i ddatblygu ac ehangu’r cyfleoedd yma ymhellach ym Medi.
Mae Corff Llywodraethol yr ysgol hon yn awyddus i benodi cynorthwy-ydd lefel uwch i ymuno â thîm o staff brwdfrydig, egniol, gweithgar a hapus. Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus gydweithio’n agos gyda phlant, rhieni a staff yr ysgol er mwyn sicrhau parhad i ethos ardderchog a safonau uchel yr ysgol. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion fydd ag ymrwymiad at werthoedd a gweledigaeth yr ysgol.
Yr ydym yn chwilio, felly, am gynorthwyydd galluog, brwd a hyblyg. O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob gweithiwr cymorth dysgu gael ei gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Gwahoddir ymgeiswyr ar gyfer Medi 2022 neu cyn gynted a sy’n bosibl.
Cyflog ar gyfer y swyddi uchod: Prif Raddfa Broffesiynol
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 1af o Orffennaf 2022
Am sgwrs anffurfiol am y swyddi hyn cysylltwch â’r Pennaeth, Eirian Jones, ceir manylion cyswllt ar wefannau'r ysgol a chyngor sir Casnewydd.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer pob swydd naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.