CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
Ysgol Garth Olwg
Y Brif Ffordd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1DX
01443 57 00 57
Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 1250
Cynorthwyydd Dysgu Lefel 2
Cytundeb: Blwyddyn i gychwyn - Tymor Ysgol yn Unig
Cyflog: Lefel 2 / Gradd 4 - £14, 799 (£19,264 x 76.28%)
Oriau Gwaith: 32.5 awr yr wythnos
Dyddiad Dechrau: Medi 2022
Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cynorthwydd Dysgu Lefel 2 i ymuno ag Ysgol Garth Olwg. Bydd disgwyl i chi weithio gyda disgyblion y dosbarth meithrin, gan weithio’n bennaf gyda disgybl â nam clyw. Byddai cael profiad o arwyddo neu weithio gyda disgybl â nam clyw yn ddelfrydol ond nid yn angenrheidiol . Serch hynny, mae’n bosibl bydd gofyn i chi gweithio gyda disgyblion hŷn yr ysgol yn y dyfodol hefyd.
Rôl y Cynorthwyydd Dysgu Lefel 2 yw i sefydlu perthynas gadarnhaol gyda disgyblion, er mwyn eu hannog i ryngweithio gydag eraill er mwyn sicrhau eu cynhwysiant a’u cymhelliant i weithio mewn gwersi. Bydd disgwyl hefyd i weithio ar dargedau penodol er mwyn cefnogi’r athrawon i sicrhau cynnydd y disgyblion yn y dosbarth.
Agorwyd Ysgol Garth Olwg ym mis Medi 2019 ar gampws Cymunedol Garth Olwg, ym Mhentre’r Eglwys, sef hen safle Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Garth Olwg. Mae’r ysgol yn addysgu dros 1250 o ddisgyblion ardal Pontypridd ac yn adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol.
Mae croeso i chi gysylltu gyda'r ysgol i drafod y swydd hon yn anffurfiol gyda’r CADY, Mrs Elin Howard.
Byddwn fel ysgol hefyd yn fwy na pharod i gyfarfod darpar ymgeiswyr sydd am ymweld â'r campws arbennig hwn cyn mynd ati i wneud cais neu cyn y broses apwyntio. Noder bod y llythyr cais yn gyfle i chi nodi’ch syniadau, sgiliau proffesiynol ac unrhyw brofiad perthnasol mewn perthynas â’r swydd hon yn ogystal a’r modd y byddwch yn cyfrannu’n llawn i fywyd Ysgol Garth Olwg.
Oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i weledigaeth fentrus, uchelgeisiol ac arloesol Ysgol Garth Olwg?
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan eteach.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar ddydd Gwener, 1af o Orffennaf 2022.
MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Ni fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Ysgol Garth Olwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.