CYNGOR RHONDDA CYNON TAF
Ysgol Garth Olwg
Y Brif Ffordd, Pentre’r Eglwys, Pontypridd CF38 1DX
01443 57 00 57
Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 1251
Dirprwy Brifathro
Cytundeb: Parhaol
Cyflog: L17 – L21
Dyddiad Dechrau: Medi 2023
Ydych chi’n chwilio am her gyffrous a chyfle i wneud gwahaniaeth fel Dirprwy Brifathro?
Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi arweinydd blaengar, deinamig a chreadigol i ymuno â Thîm Arwain yr ysgol. Mae hwn yn gyfle gwych i ymgymryd â rôl Dirprwy Brifathro mewn ysgol 3-19 arloesol lle mae cyfleoedd gwych i ddatblygu’r medrau arweinyddol i’r eithaf.
Dymunwn benodi unigolyn gweithgar a brwdfrydig i gyfarwyddo ac arwain o fewn ein cymuned 3-19. Dyma gyfle unigryw i unigolyn ysbrydoledig sydd â’r brwdfrydedd a sgiliau i ddatblygu profiadau dysgu rhagorol a chyfoethog i’n dysgwyr; sy’n arweinydd profiadol, cryf; yn gyfathrebwr ardderchog ac yn angerddol dros addysg Gymraeg, y Cwricwlwm i Gymru, Anghenion Dysgu Ychwanegol a strategaethau gwella dysgu.
Disgwylir i'r ymgeisydd fod yn angerddol dros y sector addysg bob oed ac yn barod i gyfrannu at ethos a gweledigaeth ysgol flaengar, gynhwysol ac uchelgeisiol.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i rywun sydd am ddatblygu yn broffesiynol a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol fel Dirprwy Brifathro.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sy’n:
• Meddu’r profiad, y wybodaeth â’r weledigaeth i arwain Anghenion Dysgu Ychwanegol o fewn Ysgol Garth Olwg gan fod yn barod i roi cymorth i’n ysgolion partner yn ogystal
• Meddu dealltwriaeth gref iawn o’r Cod Ymarfer ADY newydd i arwain yr ysgol i lwyddiannau pellach yn y maes allweddol hwn
• Meddwl yn strategol ac sydd â phrofiad o roi sgiliau arwain a rheoli ar waith yn llwyddiannus
• Meddu sgiliau rhyngbersonol rhagorol
• Ymrwymo i weithio yn rhan o dîm llwyddiannus a phartneriaethau ehangach
• Ymroi i ragoriaeth mewn addysg a disgwyliadau uchel
• Arweinydd sy'n ysbrydoli, cymell a grymuso pobl eraill
• Ymarferydd dosbarth rhagorol sydd yr un mor angerddol am ddatblygiad emosiynol, cymdeithasol ac academaidd pob plentyn sydd yn ei ofal
• Arloesol a gwybodus gyda’r hyder i arwain ac ymrwymo i weledigaeth yr ysgol ar gyfer y cwricwlwm newydd a blaenoriaethau cenedlaethol a lleol
• Gyfathrebwr ardderchog a fydd yn ysbrydoli plant, rhieni a staff fel ei gilydd
• Barod i ymrwymo i feithrin cydberthnasau sy'n bodoli eisoes gyda'n teuluoedd a'r gymuned ehangach ymhellach
• Barod i ymrwymo'n gryf i weithio mewn partneriaeth â staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.
Mae hwn yn gyfle euraidd i arweinydd uchelgeisiol sy’n angerddol ac yn llwyr ymroddedig i sicrhau bod ein disgyblion dawnus yn datblygu i fod yn ddysgwyr mentrus, creadigol ac uchelegiesiol, tra hefyd yn datblygu’n ddinasyddion egwyddorol, iach ac hyderus.
Agorwyd Ysgol Garth Olwg ym mis Medi 2019 ar gampws Cymunedol Garth Olwg, ym Mhentre’r Eglwys, sef hen safle Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg ac Ysgol Gyfun Garth Olwg. Mae’r ysgol yn addysgu dros 1250 o ddisgyblion ardal Pontypridd ac yn adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol.
Mae croeso i chi gysylltu gyda’r ysgol i drefnu ymweliad a chyfarfod gyda’r Prifathro, Trystan Edwards. Dylai ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud hynny gysylltu â Phennaeth Adnoddau Dynol yr ysgol sef Mrs Claire Thomas – gweler fanylion cyswllt llawn o fewn y pecyn gwybodaeth.
Oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i weledigaeth fentrus, uchelgeisiol ac arloesol Ysgol Garth Olwg?
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan eteach.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1.00pm ar ddydd Llun, 27ain Chwefror 2023.
MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Ni fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Ysgol Garth Olwg is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.