Rydym yn awyddus i benodi ymarferydd ffeithiol gyda’r ymrwymiad a’r weledigaeth i gyfrannu fel athro/
athrawes o fewn y maes Cerddoriaeth sy’n faes allweddol yn Ysgol Glan Clwyd. Bydd disgwyl i’r
ymgeisydd llwyddiannus ffynnu a datblygu fel aelod o dîm yr adran a bod yn rhan o’r symud cyffrous at y
Cwricwlwm Newydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i addysgu Cerddoiraeth i’r amrediad oedran a gallu llawn yn yr
ysgol. Rydym yn chwilio am berson egnïol a blaengar i sicrhau fod y maes hwn yn parhau i ffynnu yn Ysgol
Glan Clwyd, ac i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol yn allgyrsiol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
• ymlyniad at addysg Gymraeg a dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg yng nghyd destun yr ardal arbennig y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu
• arbenigedd ym maes Cerddoriaeth. (Nid o reidrwydd yn brif bwnc)
• y gallu i drosglwyddo mwynhad y cyfrwng ac ysbrydoli disgyblion i fwynhau pob math o berfformio.
• y gallu i gyfrannu at faes arall.
• agwedd arloesol a ffres at ddysgu.
• agwedd sy’n croesawu heriau a datblygiadau newydd yn gyson.
• y gallu i ysbrydoli disgyblion a myfyrwyr.
• y gallu i gydweithio’n rhagorol fel aelod o dîm.
• y gallu i gynllunio ac arwain.
• ymrwymiad cydwybodol i arlwy allgyrsiol yr ysgol.
• yr agwedd briodol sydd yn mynnu’r safonau uchaf bob amser – o ran cyflawniad personol a chyflawniad eraill.
Ydy’r wybodaeth hon wedi procio eich chwilfrydedd? Hoffech chi wybod mwy?
Os ydych yn rhannu gweledigaeth yr ysgol am yr addysg orau posib yn yr unfed ganrif ar hugain
gyda’r byd digidol yng nghanol y dysgu hwnnw, ac yn awyddus i ddatblygu gyrfa mewn ysgol hapus
ac arloesol, byddai’r Pennaeth mewn gofal, Mrs Sian Alwen, yn croesawu ymholiadau pellach am y swydd a sgwrs anffurfiol.
Ysgol Glan Clwyd is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.