Loading...

A ydych chi erioed wedi ystyried addysgu yng Nghymru? Gyda'r cyfuniad perffaith o arfordiroedd prydferth a diwylliant o chwaraeon, Cymru yw’r cyrchfan perffaith i athrawon sy'n chwilio am amrywiaeth o opsiwn gyrfaol ynghyd â chydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith

Addysgu yng Nghymru

Y peth delfrydol am addysgu yw ei fod yn sgil y gallwch fynd ag ef gyda chi i rywle. Mae llawer o ysgolion Cymru wrthi bellach yn recriwtio athrawon sy'n gall dod â’u profiad o weddill Prydain i Gymru. Mae ysbryd ysgol yn amrywio rhwng ysgolion o bob math, ond gall symud i ddiwylliant cyfan gwbl wahanol roi cyfle i chi wirioneddol serennu. Tra bod Lloegr yn symud fwyfwy tuag at fodel o ysgolion rhydd ac academïau, mae’r ysgolion yng Nghymru yn parhau i atgyfnerthu eu cysylltiadau gyda chymunedau lleol, gyda Llywodraeth Cymru yn bwriadu recriwtio 50,000 o athrawon erbyn 2024. Gyda chynifer o ysgolion Cymru wrthi’n recriwtio, gall rhai ystyried cynnig taliadau unigryw fel pecynnau adleoli a chroeso euraidd ar gyfer athrawon sy'n symud draw. At hynny, mae Cymru a Lloegr yn rhannu’r un raddfa gyflog ar gyfer ysgolion felly nid yw'n croesi’r Hafren yn golygu cwtogi’ch cyflog. Os ydych yn chwilio am gyfle i feithrin pobl ifanc yn academaidd ac yn gymdeithasol er mwyn cael effaith go iawn, mae’n bosibl mai addysgu yng Nghymru yw’r yrfa i chi.

Am Gymru

Yn ogystal â’r cefn gwlad godidog sy’n gwneud Cymru yn adnabyddus, mae ganddi 870 milltir o arfordir prydferth sy'n cael ei fwynhau gan gerddwyr, beicwyr mynydd a syrffwyr fel ei gilydd. O ran chwaraeon, mae Cymru yn enwog am ei rygbi, ei phêl-droed a’i chwaraeon moduro. Nid yn unig gallai symud i Gymru wella’ch 'trefn bob dydd', ond byddai eich opsiynau ar gyfer penwythnosau hwyliog mewn lleoedd hyfryd yn ddi-rif. Mae hefyd yn werth cadw llygad ar farchnad dai yr ardal leol ar gyfer rhentu a phrynu o amgylch yr ysgolion sydd gyda chi mewn golwg. Mae costau byw hyd yn oed yng Nghaerdydd yn sylweddol is nag yn Llundain, gyda phrisiau rhent oddeutu 75% yn is ar gyfartaledd. ...ac yn amlwg mae’r dreigiau. Gallai fod dreigiau go iawn yn byw yng Nghymru, ond gallai hynny hefyd fod yn anwir. Ein hargymhelliad ni yw eich bod yn ymchwilio ac yn rhoi gwybod i ni.

Addysgu yng Nghymru

Gweld yr holl swyddi yng Nghymru