32.5 awr yr wythnos - amser tymor
Mae Llywodraethwyr Ysgol y Ferch O'r Sgêr yn ceisio penodi swyddog cymorth dysgu parhaol llawn cymhelliant sydd â phrofiad o weithio yn y Cyfnod Cynradd i ymuno â thîm ymroddedig, arloesol a chreadigol tra'n darparu amgylchedd ysgogol a meithringar sy'n dathlu unigoliaeth pob plentyn.
Bydd
angen
i'r swyddog cymorth dysgu a benodir ddangos dealltwriaeth o ofynion y swydd ac ymarfer dosbarth rhagorol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus feithrin perthynas gadarnhaol gyda holl randdeiliaid yr ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifennedig yn rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon. Gofynnwn chi gwblhau'r cais yn y Gymraeg.
Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 29 Ebrill 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 30 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Mai 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Ysgol y Ferch o'r Sger yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.