32.5 awr yr wythnos - amser tymor
Mae Llywodraethwyr Ysgol y Ferch O'r Sgêr yn ceisio penodi swyddog cymorth dysgu parhaol llawn cymhelliant sydd â phrofiad o weithio yn y Cyfnod Cynradd i ymuno â thîm ymroddedig, arloesol a chreadigol tra'n darparu amgylchedd ysgogol a meithringar sy'n dathlu unigoliaeth pob plentyn.
Bydd angen i'r swyddog cymorth dysgu a benodir ddangos dealltwriaeth o ofynion y swydd ac ymarfer dosbarth rhagorol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus feithrin perthynas gadarnhaol gyda holl randdeiliaid yr ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifennedig yn rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon. Gofynnwn chi gwblhau'r cais yn y Gymraeg.
Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 29 Ebrill 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 30 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Mai 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar OgwrDisgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Ysgol y Ferch o'r Sger is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.