Swydd Cynorthwyydd Bugeiliol

Coleg
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Lleoliad
Penlan, Swansea
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Adeg y tymor yn unig
Cyflog
Graddfa 5
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
24th Ebrill 2024 12:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1414331
Cyfeirnod y swydd
YGG BRYN TAWE
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1414331

Swydd Cynorthwyydd Bugeiliol

Rydym yn edrych i apwyntio cynorthwyydd i dîm bugeiliol yr ysgol, i ddechrau cyn gynted â phosib. Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thîm bugeiliol profiadol, brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar yr ysgol ac yn gweithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion ar draws CA3 a 4.

Croesawn geisiadau gan unigolion â’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe. Rydym yn benodol yn edrych am unigolion sydd â’r angerdd, y gallu neu’r profiad a’r natur i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i oresgyn unrhyw rwystrau i’w dysgu.

Mae’r rolau newydd yma, sy’n gofyn am unigolion amyneddgar, didwyll ac adferol, yn allweddol i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau allant fod ac i lwyddo drwy gyrraedd eu potensial. Mae’r angen am y gefnogaeth bwysig yma yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion.

Sut i Ymgeisio:

Dyddiad Cau cyflwyno cais: Gwener yr 24ain o Ebrill 2024

Cyflog: Graddfa Cyflog 5 Pro Rata £20943- £21655

Cytundeb: Parhaol, 37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig

Dyddiad cau: Dydd Gwener 24.04.2024

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.

Bydd y swydd yn amodol ar wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.




Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.