Swydd Cynorthwyydd Bugeiliol
Rydym yn edrych i apwyntio cynorthwyydd i dîm bugeiliol yr ysgol, i ddechrau cyn gynted â phosib. Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thîm bugeiliol profiadol, brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar yr ysgol ac yn gweithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion ar draws CA3 a 4.
Croesawn geisiadau gan unigolion â’r brwdfrydedd a’r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe. Rydym yn benodol yn edrych am unigolion sydd â’r angerdd, y gallu neu’r profiad a’r natur i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i oresgyn unrhyw rwystrau i’w dysgu.
Mae’r rolau newydd yma, sy’n gofyn am unigolion amyneddgar, didwyll ac adferol, yn allweddol i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau allant fod ac i lwyddo drwy gyrraedd eu potensial. Mae’r angen am y gefnogaeth bwysig yma yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion.
Sut i Ymgeisio:
Dyddiad Cau cyflwyno cais: Gwener yr 24ain o Ebrill 2024
Cyflog: Graddfa Cyflog 5 Pro Rata £20943- £21655
Cytundeb: Parhaol, 37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig
Dyddiad cau: Dydd Gwener 24.04.2024
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.
Bydd y swydd yn amodol ar wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.