Gweinyddwr y Prosiect Lluosi

Cyflogwr
Gower College Swansea
Lleoliad
Swansea, Swansea
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
£22,982 - £25,017
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
5th Hydref 2023 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1370588
Cyfeirnod y swydd
SEP20237092
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: until December 2024
  • ID swydd: 1370588

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y Rôl:

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’n Tîm Cyllid Allanol prysur fel Gweinyddwr y Prosiect Lluosi.

Prosiect a ariennir gan y llywodraeth yw Lluosi sy’n helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd. Mae’r ddarpariaeth yn rhad ac am ddim i unigolion 19+ nad oes ganddynt radd C mewn Mathemateg. Bwriad y fenter yw magu hyder unigolion a rhoi cyfle iddynt ennill cymhwyster fel y gallant sicrhau cyflogaeth/hyfforddiant.

37 awr yr wythnos

Cyfnod Penodol tan Ragfyr 2024 (byddwn yn ystyried secondiad)

£22,982 - £25,017 y flywyddyn

Tycoch / Ffordd y Brenin

Cyfrifoldebau Allweddol:

Byddwch yn gyfrifol am gasglu a choladu’r holl waith papur er mwyn hwyluso darpariaeth effeithiol ar gyfer y Prosiect.

Trwy weithio’n agos â staff perthnasol, byddwch yn cofnodi gwybodaeth am ganlyniadau a thargedau’r prosiect, gan roi sylw hefyd i agweddau ariannol y prosiect.

Byddwch yn sicrhau bod systemau perthnasol yn cael eu sefydlu er mwyn hwyluso darpariaeth y prosiect hwn.

Amdanoch chi:

Mae profiad o brosesu llawer o waith papur a gweithio mewn swyddfa brysur yn hanfodol, yn ogystal â sgiliau TG rhagorol

Enwedig wrth ddefnyddio Excel.

Mae meddu ar brofiad o weinyddu prosiectau a ariennir yn allanol a gweithio gyda phartneriaid allanol yn fanteisiol.

 Buddion:

28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)

2 ddiwrnod lles i staff

Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1). 

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.