Gweinyddwr Cyflogres

Cyflogwr
Gower College Swansea
Lleoliad
Swansea, Swansea
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
£25,625 - £27,849
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
5th Hydref 2023 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1371937
Cyfeirnod y swydd
SEP20230402
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1371937

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Gweithio ochr yn ochr â’r Swyddog Cyflogres i ddefnyddio system gyflogres integredig y Coleg i dalu cyflogau staff yn unol â thelerau’r gwasanaeth, deddfwriaethau statudol (ar gyfer treth, yswiriant gwladol a didyniadau eraill) a rheolau’r cynllun pensiwn (CPLlL a TPS).

Amser-Llawn (37 awr yr wythnos)

Parhaol

£25,625 - £27,849 y flwyddyn

Campws Tycoch

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Gweithio gyda’r Swyddog Cyflogres i brosesu’r gyflogres bob mis a chynhyrchu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â rheoli.
  • Prosesu diwygiadau i’r gyflogres (SW3) bob mis gan ddiweddaru system y gyflogres.
  • Paratoi cyfrifiadau ar gyfer tâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu.
  • Prosesu newidiadau o ran absenoldebau oherwydd salwch i’r gyflogres.

Amdanoch chi:

  • Cymhwyster Lefel 3 neu’r cyfwerth mewn maes perthnasol e.e. Lefel A / Diploma.
  • Lefel 2 (Gradd A-C) neu’r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg
  • Profiad o weithio mewn swydd weinyddol.
  • Dealltwriaeth o GDPR.

 Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • Mynediad i Raglen Cymorth Gweithwyr sy’n cynnig gwasanaeth cwnsela 24/7
  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corf

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.