Tiwtor Aseswr

Cyflogwr
Gower College Swansea
Lleoliad
Swansea, Swansea
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser, achlysurol
Cyflog
£27,001 - £29,716
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
3rd Hydref 2023 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1371934
Cyfeirnod y swydd
AUG20231109
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1371934

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Cynllunio a darparu rhaglen gyflogaeth arloesol i ddysgwyr lefel mynediad sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Rhoi model ddarparu ‘Project Search’ ar waith er mwyn cyflwyno cwricwlwm sgiliau gwaith mewn Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

14.5 awr yr wythnos (2 ddiwrnod yr wythnos)

Parhaol

£14.00 - £15.40 yr awr

Tycoch, Ysbyty Treforys a Ysbyty Singleton.

Dyddiad cychwyn: 8 Ionawr 2024

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Bod yn gyfrifol am gyflwyno amgylchedd ddysgu effeithiol, gan nodi a hysbysu unrhyw ofynion sy’n ymwneud ag adnoddau, yn unol â datblygiadau cwricwlwm a thechnegol.
  • Cynllunio, darparu ac asesu cwricwlwm cyflogadwyedd (Project Search) sy’n seiliedig ar waith ac sydd hefyd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, i ddysgwyr sy’n gwneud Interniaethau dan gymorth. Yn y cwricwlwm, bydd gofyn cynnwys gwybodaeth sylfaenol a sgiliau angenrheidiol er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwyseddau galwedigaethol o fewn lleoliad gweithle.
  • Cyfrannu at y gwaith o recriwtio ac asesu darpar interniaid trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau recriwtio a marchnata megis delio ag ymholiadau gan ddarpar interniaid mewn nosweithiau agored, cyfarfodydd dilyniant a digwyddiadau blasu, lle y bo gofyn.

Amdanoch chi:

  • Cymwysterau addysgu/dysgu.
  • Profiad o ddarparu hyfforddiant ymarferol a chymorth i ddysgwyr sydd ag ADY.
  • Sgiliau hunanreoli a’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun.

 Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • Tanysgrifiad blynyddol am ddim i ap Headspace Mindfulness
  • Mynediad i Raglen Cymorth Gweithwyr sy’n cynnig gwasanaeth cwnsela 24/7
  • Mynediad at driniaethau holistaidd a chyflenwol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1). 

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.