Pennaeth Ysgol Hafan y Môr
Mae Llywodraethwyr Hafan y Môr yn dymuno penodi pennaeth brwdfrydig ac ysbrydoledig sydd yn meddu ar rinweddau rhyngbersonol cryf i arwain a pharhau i ddatblygu’r ddarpariaeth Addysg Gymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 3-11 oed yn Ninbych y Pysgod a’r ardal gyfagos. Mae hyn yn gyfle i arwain ysgol arloesol sy'n darparu addysg Gymraeg o ansawdd uchel gan sicrhau ei datblygiad pellach i'r dyfodol.
Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Pennaeth -
A fydd yn datblygu, hyrwyddo a gweithredu gweledigaeth gadarn ar gyfer datblygiad yr ysgol mewn partneriaeth â'r disgyblion, staff, y llywodraethwyr, y rhieni, y gymuned ehangach a'r awdurdod lleol;
Sy'n rheolwr ac yn arweinydd arloesol a deallus, yn meddu ar y profiad i ddatblygu a chefnogi staff, rheoli cyllideb a gweithio gyda chorff llywodraethu;
Bydd yn sicrhau profiadau dysgu eithriadol o'r radd flaenaf i'r holl ddisgyblion
Sy’n gallu cynllunio'n strategol i sicrhau gwelliant parhaus a dilyniant dysgu ar draws ystod oed yr ysgol, gyda ffocws clir ar wella deilliannau a lles disgyblion gan gyrraedd rhagoriaeth
Yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu herio, ysbrydoli ac ysgogi eraill i ddysgu a chyflawni
Fydd yn llysgenad i hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg;
Sefydlwyd Ysgol Hafan y Môr fel yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Ne Sir Benfro ym mis Medi 2016 i ymateb i, a chynyddu'r galw cynyddol am addysg gyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Agorodd yr ysgol ei drysau gyda 112 disgybl ar y gofrestr ac ers hynny mae wedi tyfu i’w gapasiti llawn o 244 disgybl.
Mae darpariaeth yr ysgol yn cynnwys Cylch Meithrin, Clwb Brecwast, Clwb ar ôl Ysgol, grŵp rhieni a babanod/plant bach ‘Hafan Bach’ a gwersi Cymraeg ar gyfer rhieni fel dull i sicrhau cymorth i'r teuloedd niferus sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Mae gan yr ysgol dîm o staff brwdfrydig a theyrngar sy'n sicrhau bod Ysgol Hafan y Môr yn ysgol â gwir natur deuluol ag ethos hapus ble adnabyddir a gwerthfawrogir bob plentyn. Bydd y pennaeth newydd yn derbyn cefnogaeth gref gan gorff llywodraethu profiadol a diwyd i sicrhau y bydd yr ysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth.
Bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd nad yw'n bennaeth ar hyn o bryd feddu ar gymhwyster CPCP ar yr adeg benodi.
Am rhagor o fanylion ac i drefnu ymweliad cysylltwch ag Ymgynghorydd Gwella’r Ysgol Mrs Amanda Lawrence.
Amrediad Cyflog: L 10– L 16
Dyddiad dechrau: Ionawr 1af 2026
Rydym yn disgwyl tynnu’r rhestr fer a chynnal cyfweliadau fel a ganlyn:
Dyddiad cau: Medi 1af 2025 (ganol nos)
Rhestr fer: Medi’r 3ydd 2025
Cyfweliad: Medi’r 18fed a’r 19eg
Mae Ysgol Hafan y Môr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.