Pennaeth - Ysgol Hafan y Mor

Employer
Ysgol Hafan y Môr
Location
Tenby, Pembrokeshire
Contract Type
Permanent
Hours
Full Time
Salary
Graddfa Gyflog o fewn: L10 £63,290 - L16 £73,426
Start Date
As Soon As Possible
Expires
4th August 2025 11:59 PM
Contract Type
Permanent
Job ID
1495771
Start Date
As Soon As Possible
  • Contract Type :Permanent
  • Job ID: 1495771

Pennaeth Ysgol Hafan y Môr

   

Mae Llywodraethwyr Hafan y Môr yn dymuno penodi pennaeth brwdfrydig ac ysbrydoledig sydd yn meddu ar rinweddau rhyngbersonol cryf i arwain a pharhau i ddatblygu’r ddarpariaeth Addysg Gymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 3-11 oed yn Ninbych y Pysgod a’r ardal gyfagos.  Mae hyn yn gyfle i arwain ysgol arloesol sy'n darparu addysg Gymraeg o ansawdd uchel gan sicrhau ei datblygiad pellach i'r dyfodol.

Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Pennaeth - 

 

A fydd yn datblygu, hyrwyddo a gweithredu gweledigaeth gadarn ar gyfer datblygiad yr ysgol mewn partneriaeth â'r disgyblion, staff, y llywodraethwyr, y rhieni, y gymuned ehangach a'r awdurdod lleol;

Sy'n rheolwr ac yn arweinydd arloesol a deallus, yn meddu ar y profiad i ddatblygu a chefnogi staff, rheoli cyllideb a gweithio gyda chorff llywodraethu;

Bydd yn sicrhau profiadau dysgu eithriadol o'r radd flaenaf i'r holl ddisgyblion

Sy’n gallu cynllunio'n strategol i sicrhau gwelliant parhaus a dilyniant dysgu ar draws ystod oed yr ysgol, gyda ffocws clir ar wella deilliannau a lles disgyblion gan gyrraedd rhagoriaeth

Yn gyfathrebwr rhagorol sy'n gallu herio, ysbrydoli ac ysgogi eraill i ddysgu a chyflawni

Fydd yn llysgenad i hyrwyddo diwylliant Cymru a'r Gymraeg;

 

Sefydlwyd Ysgol Hafan y Môr fel yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yn Ne Sir Benfro ym mis Medi 2016 i ymateb i, a chynyddu'r galw cynyddol am addysg gyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Agorodd yr ysgol ei drysau gyda 112 disgybl ar y gofrestr ac ers hynny mae wedi tyfu i’w gapasiti llawn o 244 disgybl.

 

Mae darpariaeth yr ysgol yn cynnwys Cylch Meithrin, Clwb Brecwast, Clwb ar ôl Ysgol, grŵp rhieni a babanod/plant bach ‘Hafan Bach’ a gwersi Cymraeg ar gyfer rhieni fel dull i sicrhau cymorth i'r teuloedd niferus sydd ddim yn siarad Cymraeg.

 

Mae gan yr ysgol dîm o staff brwdfrydig a theyrngar sy'n sicrhau bod Ysgol Hafan y Môr yn ysgol â gwir natur deuluol ag ethos hapus ble adnabyddir a gwerthfawrogir bob plentyn. Bydd y pennaeth newydd yn derbyn cefnogaeth gref gan gorff llywodraethu profiadol a diwyd i sicrhau y bydd yr ysgol yn parhau i fynd o nerth i nerth.

 

Bydd yn rhaid i unrhyw ymgeisydd nad yw'n bennaeth ar hyn o bryd feddu ar gymhwyster CPCP ar yr adeg benodi.

 

Am rhagor o fanylion ac i drefnu ymweliad cysylltwch ag Ymgynghorydd Gwella’r Ysgol Mrs Amanda Lawrence.

 

Amrediad Cyflog: L 10– L 16

Dyddiad dechrau: Ionawr 1af 2026

Rydym yn disgwyl tynnu’r rhestr fer a chynnal cyfweliadau fel a ganlyn:

  

Dyddiad cau:           Medi 1af 2025 (ganol nos)

Rhestr fer:                Medi’r 3ydd 2025

Cyfweliad:                 Medi’r 18fed a’r 19eg

Attachments

Safeguarding Statement:

Safeguarding and protecting children and adults at risk is a high priority for Pembrokeshire County Council. We aim to support vulnerable children and adults at risk to ensure they are as safe as they can possibly be. We are committed to ensuring their safety and will take action to safeguard their well-being. The Council’s Corporate Safeguarding Policy provides a framework for every member of staff and Service within the Council, setting out responsibilities in relation to safeguarding and protecting children and adults at risk as well as the methods by which the Council will be assured that it is fulfilling its duties.

This policy applies to all Council employees and workforce, councillors, volunteers and also service providers that are commissioned by the Council. Safeguarding is everyone's business whether they work for, or on behalf of the Council.

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles.Mae Polisi Corfforaethol Diogelu'r Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau lle caiff y Cyngor ei sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn gymwys i holl weithwyr y Cyngor a'r gweithlu, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor.Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Ysgol Hafan y Môr

Ysgol Hafan y Môr

Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority