ATHRO / ATHRAWES GWYDDONIAETH ac Arweinydd SPARC STEM
Swydd Llawn Amser, Parhaol
Tâl: Prif Raddfa + TLR2A ar gyfer Cyfrifoldeb SPARC STEM* (wedi'i ariannu'n allanol tan o leiaf 31/08/2026)
Ar gyfer Mis Ionawr 2026 neu cyn gynted â phosibl.
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol flaengar a llwyddiannus.
Rydym yn ceisio penodi athro Gwyddoniaeth brwdfrydig ac ysbrydoledig i ddysgu CA3 a TGAU.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn athro/athrawes hyderus ac effeithiol, yn frwd dros ei bwnc, yn gallu ysgogi a gweithio'n dda gyda myfyrwyr a chydweithwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn arwain y fenter SPARC, sy’n cael ei hariannu trwy ‘Fargen Bae Abertawe’ i hyrwyddo cyfranogiad benywaidd mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy, peirianneg ac adeiladu. Mae hwn yn brosiect sydd â'r nod o gefnogi'r buddsoddiad sylweddol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer datblygu diwydiannau adnewyddadwy a diwydiannau eraill sy'n gysylltiedig ag ynni yn ne'r sir
Rydym yn falch o fod yn ysgol gynnes, croesawgar sydd â disgwyliadau uchel o bob dysgwr yn ein cymuned. Mae’r staff, myfyrwyr, rhieni a phartneriaid yn gweithio’n agos gyda’i gilydd tuag at ein datganiad cenhadaeth: ‘ein gorau bob amser: i’n hysgol, i eraill, i ni ein hunain.’
Estyn:
“Mae Ysgol Bro Gwaun yn gymuned ofalgar sy’n canolbwyntio’n frwd ar ddatblygu’i disgyblion yn ddinasyddion hyderus a chyfrifol. Mae’r perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff a disgyblion yn gryfder nodedig yn yr ysgol.”
Mae Ysgol Bro Gwaun yn ysgol ddwyieithog. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
* Sylwch fod y cyllid hwn wedi'i ddarparu'n allanol a'i fod ar gael i bob ysgol uwchradd yn Sir Benfro. Nid yw'n rhan o ffrwd ariannu arferol yr ysgol a bydd y penderfyniad i ddileu neu gadw'r cyllid yn ei le yn cael ei wneud gan Fwrdd Datblygu Strategol SPARC.
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Miss Alana Finn, Diprwy Pennaeth.
Mae Ysgol Bro Gwaun yn gweithredu polisiau Diogelu Gwasanaeth Addysg Sir Benfro. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel. Rydym yn gweithio tuag at sicrhau hyn ar gyfer ein holl ddisgyblion ac yn cydnabod hawl pob un i dderbyn y gefnogaeth hon. Gweithredir hyn yn unol â blaenoriaethau ac ethos yr ysgol.
Dyddiad cau: 21 Gorffennaf 2025
Mae Ysgol Bro Gwaun yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.