Croeso i wefan yrfaoedd St David's Catholic College

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

Ymunwch â ni

SWYDDI PRESENNOL

Ymddiheuriadau, nid ydym yn recriwtio i unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd

Byddem wrth ein bodd petaech am ymuno â'n Cronfa Dalent fel y gallwn gysylltu â chi pan fydd y swydd wag gywir yn codi.

Cronfa Dalent

Ymunwch â'n Cronfa Dalent

Amdanon ni

Sefydlwyd Coleg Catholig Dewi Sant yn 1987 gan Archesgobaeth Caerdydd. Mae’n Goleg Chweched Dosbarth ar un campws yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd. Mae’r Coleg yn darparu addysg ar gyfer 1,400 dysgwr, gyda bron pob un dysgwr yn astudio’n llawn amser, a phob un rhwng 16-19 oed.

Mae’r Coleg yn cynnig 30 cwrs Safon Uwch i ddysgwyr, ynghyd â sawl gwrs galwedigaethol Lefel 3 ar draws wyth pwnc. Y meysydd pynciol hynny sydd â’r gyfran uchaf o ddarpariaeth ydy: gwyddoniaeth a mathemateg; gweinyddiaeth fusnes a’r gyfraith; y celfyddydau, cyfryngau, ac argraffu; a’r gwyddorau cymdeithasol. Pob blwyddyn, symudir dros bedwar can dysgwr ymlaen i brifysgol, gyda thua 40% yn parhau i brifysgol Grŵp Russell. Yn ein harolygiad Estyn yn 2019, raddiwyd y Coleg yn ‘rhagorol’ ar gyfer safonau’r dysgwyr, ac yn ‘rhagorol’ ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth.

Mae’r Coleg yn recriwtio dysgwyr o ysgolion eang, sy’n cynnwys pedair ysgol uwchradd Gatholig yr ardal. Ceir dysgwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol, ethnig, a chrefyddol eang sy’n mynychu’r Coleg. Daw 34% o’n dysgwyr o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, fel y’u diffinnir gan gwintel cyntaf mynegai amddifadedd Cymru. Mae 36% o boblogaeth y Coleg yn groenddu, Asiaidd, neu’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol.