Athro Astudiaethau Busnes UG/Safon Uwch - Yn ofynnol ar gyfer Medi 2025
Mae Coleg Dewi Sant yn Goleg Chweched Dosbarth poblogaidd dros ben sy’n darparu addysg o ansawdd uchel i bobl ifanc 16-19 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yn ein harolygiad Estyn diweddaraf yn 2019, roeddem wedi graddio'n 'rhagorol' ym maes arolygu 1: Safonau, a maes arolygu 5: Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae’r Llywodraethwyr yn ceisio penodi athro/athrawes UG/Uwch Busnes sy’n frwdfrydig. Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymroddedig tuag at addysgu mewn Chweched Dosbarth (16-19 mewn oedran). Chwiliwn am ymarferydd dosbarth ardderchog sy’n hyrwyddo dysgu ac addysgu rhagorol er mwyn sicrhau canlyniadau rhagorol. Croesawir ceisiadau gan athrawon â phrofiad o ddysgu UG/Uwch Busnes.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i'r staff rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd gwiriad DBS manylach yn cael ei gynnal. Rydym yn gyflogwr Cyfle Cyfartal gyda darpariaeth DPP ardderchog.
Cynigir y swydd fel rôl lawn amser. Mae’n denu cyflog rhwng £32,303 - £49,934, pro rata, yn ddibynnol ar brofiad.
Disgwylir i ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ddysgu meicro-wers fel rhan o’r broses ddethol.
Buddiannau’n cynnwys darpariaeth ddatblygiad staff ardderchog, ffreutur a champfa ar y safle. Parcio ar y safle yn rhad ac am ddim. Lleoliad ardderchog.
Mae’r Coleg yn gweithredu blwyddyn academaidd Coleg Chweched Dosbarth, ac felly mae tymor yr Hydref yn dechrau ym mis Awst er mwyn galluogi gweithgareddau cofrestru.
Byddwch yn ymwybodol fod gan Goleg Dewi Sant yr hawl i gau unrhyw swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a restrir os ydynt wedi derbyn nifer uchel o geisiadau. Byddwn yn argymell os ydych am gael eich ystyried, dylech gwblhau’ch cais cyn gynted â phosib.
Hefyd, rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, a ni thrinnir unrhyw gais yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais yn Saesneg.
Mae St David's Catholic College yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.