Rydym yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth blaengar sy’n arweinydd ysbrydoledig a chadarn
a fydd yn gweithredu’n broffesiynol i sicrhau llwyddiant yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus
yn cyfrannu’n strategol i gyflawni gweledigaeth fydd yn meithrin Cymry blaengar y dyfodol. Disgwylir i’r
ymgeisydd fod yn hynod gymwys ym mhob un o’r safonau cenedlaethol i athrawon ac yn hyfedr wrth
drosglwyddo’r sgiliau hyn i gynllunio’n strategol er mwyn sicrhau ffyniant ein disgyblion yn ogystal â
dysgu proffesiynol ein staff. Bydd bod yn addysgwr rhagorol yn hanfodol er mwyn galluogi deilydd y swydd
i arfarnu safonau addysgu a dysgu a chynllunio ar gyfer gwelliant. Mae’r gallu i ysbrydoli staff a chynnig
arweiniad mesuredig a chynhaliol yn flaenoriaeth.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Glan Clwyd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.