Rydym yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth blaengar sy’n arweinydd ysbrydoledig a chadarn
a fydd yn gweithredu’n broffesiynol i sicrhau llwyddiant yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus
yn cyfrannu’n strategol i gyflawni gweledigaeth fydd yn meithrin Cymry blaengar y dyfodol. Disgwylir i’r
ymgeisydd fod yn hynod gymwys ym mhob un o’r safonau cenedlaethol i athrawon ac yn hyfedr wrth
drosglwyddo’r sgiliau hyn i gynllunio’n strategol er mwyn sicrhau ffyniant ein disgyblion yn ogystal â
dysgu proffesiynol ein staff. Bydd bod yn addysgwr rhagorol yn hanfodol er mwyn galluogi deilydd y swydd
i arfarnu safonau addysgu a dysgu a chynllunio ar gyfer gwelliant. Mae’r gallu i ysbrydoli staff a chynnig
arweiniad mesuredig a chynhaliol yn flaenoriaeth.
Ysgol Glan Clwyd is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.