Mae Ysgol Plasmawr yn frwd i benodi Technegydd Cynorthwyol i’r adran Wyddoniaeth.
Dyma gyfle i ymuno ag ysgol lwyddiannus yng nghanol y ddinas sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar
Mae’r adran wyddoniaeth yn arbennig o lwyddiannus a phoblogaidd, mae ei chanlyniadau arholiadau allanol yn ganmoladwy a mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn dilyn cyrsiau Gwyddonniaeth TGAU a chyrsiau UG ac Uwch.
Edrychir am ymgeisydd egnïol a brwdfrydig fydd yn medru cyfrannu at y gyfadran a fydd yn rhannu gweledigaeth gynhwysol yr ysgol.
Mae profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd labordy yn ddymunol ond nid yn hanfodol; byddai awydd a pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd yn hynod fanteisiol.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.