Mae Ysgol Plasmawr yn frwd i benodi Technegydd Cynorthwyol i’r adran Wyddoniaeth.
Dyma gyfle i ymuno ag ysgol lwyddiannus yng nghanol dinas sydd yn tyfu’n gyflym ac sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar
Mae’r adran wyddoniaeth yn arbennig o lwyddiannus a phoblogaidd, mae ei chanlyniadau arholiadau allanol yn ganmoladwy a mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn dilyn cyrsiau Gwyddoniaeth triphlyg TGAU a chyrsiau UG ac Uwch.
Mae’r adran Wyddoniaeth wedi ei leoli mewn bloc o labordai addas.
Edrychir am ymgeisydd egnïol a brwdfrydig fydd yn medru cyfrannu at y gyfadran a fydd yn rhannu gweledigaeth gynhwysol yr ysgol.
Mae profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd labordy yn ddymunol ond nid yn hanfodol; byddai awydd a pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd yn hynod fanteisiol.
Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.