“Nid da lle gellir gwell”
“Nid da lle gellir gwell”
Sefydlwyd Ysgol Gyfun Y Strade ym 1977 fel Ysgol Gyfun Ddwyieithog i fechgyn a merched rhwng 11 a 18+ oed.
Mae’r ysgol yn ymrwymo ei hun fel sefydliad i gynnal a chodi safonau gwaith ac ymddygiad y disgyblion ac i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg mewn cymuned ddwyieithog. Mae cynllun datblygiad a thargedau gwelliant blynyddol yr ysgol yn cyfeirio at y prif nodau hyn.
Llanelli, Carmarthenshire
2nd Mai 2024
PRG
Amser Llawn
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro/athrawes cymwys a brwdfrydig i swydd llawn amser. Ymfalchiwn yn yr hanes hir o lwyddiant sydd i’r ysgol a’r adran. Mae ffocws cryf ar ddatbly ...
Ein cwricwlwm yn seiliedig ar bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond hefyd yr ydym yn cynnig meysydd eraill yr ydym yn eu hystyried yn bwysig megis y Cwricwlwm Cymreig a chyrsiau galwedigaethol. Mae'r ysgol yn gosod nifer o dargedau a bennwyd gan y Llywodraeth ac yn gosod nifer o dargedau ei hunan yn flynyddol. Yn gyffredinol mae'r rhain yn uwch na'r targedau sirol a chenedlaethol Cyhoeddir y rhain a gwybodaeth berthnasol yn y Prosbectws ac yn Adroddiad Blynyddol y Corff Llywodraethol Rydym yn sicr fod ein Cwricwlwm yn un eang, cytbwys a pherthnasol a'n bod yn addysgu pob disgybl yn ol ei allu a'i ddiddordeb a bod pob disgybl yn cael ei ymestyn hyd eithaf ei allu. Cymeriad ein hysgol Ysgol Gymraeg sy'n darparu addysg ddwyieithog yw ein hysgol ni. Mae yna awyrgylch gymdeithasol hapus o fewn ein hysgol ac anogir y disgyblion i fod yn falch o'u hysgol, o'u cymdeithas a'u gwlad. Disgwylir i ddisgyblion siarad Cymraeg yn ystod diwrnod ysgol. Rhoddir cyfle i bob disgybl feddwl drosto'i hun, i wahaniaethu rhwng y da a'r drwg, y pwysig a'r dibwys, ac i barchu eu hun ac eraill. Anogir pob disgybl i wasanaethu'r gymuned y mae'n rhan ohoni a'i wneud yn fwy ymwybodol o'i amgylchedd.