Prifathro

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

Prifathro

Coleg
St David's Catholic Sixth Form College
Lleoliad
Cardiff, Cardiff
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Mwy na £130,000
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
18th Ebrill 2024 09:02 AM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1414751
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1414751

Prifathro Coleg Catholig 6ed Dosbarth Dewi Sant

Ynghylch

Mae Coleg Catholig 6ed Dosbarth Dewi Sant yn Goleg Chweched Dosbarth hynod lwyddiannus ac wedi’i ordanysgrifio, sy’n darparu addysg o ansawdd uchel i bobl ifanc 16–19 oed yn bennaf yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yn ei arolygiad diweddaraf, barnwyd bod y coleg yn “rhagorol” ar gyfer Safonau, ac yn “rhagorol” ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Yn dilyn ymddeoliad y Prifathro presennol, mae Llywodraethwyr Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant yn chwilio am Brifathro newydd i arwain y Coleg Catholig llwyddiannus a blaengar hwn i’r dyfodol. Mae’r coleg yn chwilio am arweinydd eithriadol gyda’r cyfuniad priodol o fedrau, doniau, profiad a gwerthoedd i ddod yn Bennaeth nesaf arno. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymrwymiad diwyro i ragoriaeth, dyhead ar gyfer twf cyfannol pobl ifanc a hyrwyddo cenhadaeth yr Eglwys Gatholig mewn addysg. Fel y cyfryw bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Gatholig Rufeinig gweithredol mewn cymundeb llawn â'r Eglwys Gatholig.

Manylion am y rôl

Cynigir y swydd fel rôl llawn amser, ac mae’n denu cyflog o fwy na £130,000.

Ymgeisiwch

Gellir cael ffurflen gais a phecyn gwybodaeth oddi wrth hr@stdavidscollege.ac.uk. Dylai ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau ynghyd â datganiad ategol heb fod yn fwy na 1500 o eiriau i hr@stdavidscollege.ac.uk erbyn 9.00 am ddydd Llun 29 Ebrill 2024 fan bellaf. Bwriedir cynnal y broses ddethol yr wythnos sy'n dechrau ar 20 Mai. 2024 a bydd yn cael ei amserlennu dros ddau ddiwrnod.

Mae croeso i unrhyw ddarpar ymgeisydd ofyn am ymweliad â'r coleg cyn gwneud cais. Anfonwch unrhyw gais o'r fath i'r cyfeiriad e-bost a nodir uchod

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnir am eirdaon, a chynhelir chwiliad ar-lein ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer, cyn y cyfweliad. Bydd gwiriadau cyn-cyflogaeth pellach, gan gynnwys gwaharddiad rhag addysgu, gwahardd gofal plant, gwiriadau adran 128 a gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu cwblhau ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus pan fydd yn derbyn y swydd.

Mae Dewi Sant yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae St David's Catholic College yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
St David's Catholic Sixth Form College

St David's Catholic Sixth Form College